Claudine Anderson

Claudine Anderson

Email Claudine Rheolwr Busnes Academaidd ac Ymchwil

Graddiodd Claudine o Goleg y Brenin, Llundain gyda BSc (Anrh) mewn Ffarmacoleg. Ar ôl graddio, bu Claudine yn gweithio yn Llundain fel golygydd cylchgronau biofeddygol ac mewn asiantaeth gyfathrebu feddygol cyn dilyn cwrs Meistr mewn Gwyddoniaeth, Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Ar ôl cwblhau ei gradd, ymunodd Claudine â Pharc Geneteg Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu rhaglen ymgysylltu arloesol ac arwain ar nifer o brosiectau ymchwil yn ymchwilio i farn y cyhoedd am effaith bosibl datblygiadau mewn technolegau geneteg, gan gydweithio’n agos â llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Wedi hynny, ymunodd Claudine â Chynghorau Ymchwil y DU fel Rheolwr Polisi gyda chyfrifoldeb dros reoli rhaglenni’r DU-gyfan i gynyddu effaith ymchwil ar gymdeithas a busnes a llunio a meithrin partneriaethau strategol â sefydliadau eraill er mwyn helpu i ymgorffori ymgysylltiad cyhoeddus mewn ymchwil academaidd.

Ers gadael Cynghorau Ymchwil y DU, mae wedi bod yn gweithio fel Rheolwr Busnes Academaidd ac Ymchwil gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn yr Is-adran Ymchwil a Gwerthuso, sy’n cynnwys darparu rheolaeth fusnes ar gyfer prosiectau a swyddi ymchwil academaidd; cyfrannu at ddatblygu rhaglenni a strategaethau ymchwil newydd o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru; a chefnogi elfennau academaidd o raglenni hyfforddi Cofrestrwyr Arbenigol.