Lucia Homolova

Lucia Homolova

Email Lucia Cynorthwyydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd

Ymunodd Lucia â’r tîm ym mis Gorffennaf 2016 fel ymchwilydd, yn edrych ar effaith diswyddiadau ar raddfa fawr ar gymunedau (cenedlaethol a rhyngwladol) a pha ddulliau sy’n gweithio i gefnogi cymunedau sy’n wynebu newidiadau economaidd o’r fath a sut y gallwn ddefnyddio cadernid yn y cymunedau.

Gyda chefndir mewn seicoleg iechyd, cyn ymuno â PHW, gweithiodd Lucia am 5 mlynedd fel Uwch weithiwr Prosiect ac fel therapydd yn Ystafell Fyw  Caerdydd/CAIS. Helpodd Lucia i sefydlu nifer o fentrau cymorth wedi eu teilwra yma fel Cwnsela Cynnal, Cymorth ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol, Beat the Odds- menter yng Nghymru i gefnogi problemau gamblo, Rhaglen Cymorth Adferiad dros y Ffôn.

Fel therapydd, cefnogodd Lucia unigolion ag anawsterau caethiwed ac mewn adferiad, yn ogystal â’u teuluoedd mewn lleoliad cwnsela un i un a therapi grŵp, gan ddefnyddio technegau fel CBT, MI, Therapi Cadarnhaol, a gweithiodd gyda modelau adferiad fel Cymorth Adferiad yn Seiliedig ar Gymheiriaid ac Atal Atchweliad, 12 Cam. 

Mae hefyd wedi gweithio ar raglenni integreiddio cymunedol gyda chymunedau Roma yr UE sydd wedi setlo yng Nghymru o dan awdurdodau lleol. Mae ganddi MSc mewn Seicoleg Iechyd - gyda thraethawd hir yn ymchwilio i heriau datblygiadol, ansawdd bywyd a phrofiadau newid rôl ar gyfer menywod yng nghanol oed, o safbwynt rhychwant oes; mae Lucia yn aelod o BPS.