Graddiodd Laura o Brifysgol Caerdydd yn 2010 gyda BSc (Anrh) yn y Gwyddorau Cymdeithasol. Ers graddio, mae Laura wedi gweithio yn y GIG ers dros 9 mlynedd mewn swydd weinyddol lle mae wedi cael ystod eang o brofiad drwy swyddi sydd wedi cynnwys gweithio fel Swyddog Clercol mewn Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi a Podiatreg ac i Fwrdd addysgu Iechyd Powys fel aelod o dîm Prosiect Adolygu Gofal Iechyd Ôl-weithredol Parhaus Cymru Gyfan y GIG.
Dechreuodd Laura weithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Ebrill 2014 fel Swyddog Gweinyddol ac Adnoddau, gan ddarparu cymorth ysgrifenyddol i’r tîm Ymchwil a Gwerthuso a chynorthwyo’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu i weinyddu ceisiadau am Ganiatadau Ymchwil y GIG. Cafodd ddyrchafiad i fod yn Swyddog Llywodraethu Ymchwil a Datblygu ym mis Hydref 2014, lle mae bellach yn gyfrifol am gydlynu proses adolygu Ymchwil a Datblygu’r GIG yn lleol ar gyfer prosiectau ymchwil sy’n ymwneud ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae hyn yn cynnwys hwyluso’r gwaith o sefydlu a chadarnhau capasiti a gallu i ddarparu’r astudiaeth. Mae Laura’n darparu cyngor a chymorth i ymchwilwyr yn fewnol ac yn allanol i Iechyd Cyhoeddus Cymru ar faterion llywodraethu ymchwil ac yn darparu cymorth i’r tîm Ymchwil a Gwerthuso a’r sefydliad yn ehangach i weithredu Strategaeth Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru.