Ystadegydd Ymchwil Iechyd Cyhoeddus yn Is-adran Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Jiao. Mae’n darparu cyngor ystadegol ac arweiniad ar y dylunio a dehongli er mwyn darparu rhaglenni ymchwil a gwerthuso arloesol i gefnogi iechyd y boblogaeth.
Diddordeb ymchwil Jiao yw datblygiad methodolegol ar gyfer dadansoddi data hydredol a’i gymhwyso i wyddor iechyd. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu’n gweithio i Sefydliad Ymchwil Gwybodeg Iechyd Farr ac Ymchwil Data Iechyd y DU yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Mae wedi arwain dadansoddiad ystadegol mewn nifer o brosiectau ymchwil gan ddefnyddio data cysylltiedig a gesglir yn rheolaidd mewn Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw.
Graddiodd Jiao o Brifysgol Abertawe gyda BSc mewn Astudiaethau Actiwaraidd, Mhres mewn Prosesau Stocastig a PhD mewn Tebygolrwydd. Mae Jiao yn gymrawd y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol.