James Bailey

James Bailey

Email James Uwch Swyddog Ymchwil a Gwertuso

Ymunodd James â’r tîm ym mis Gorffennaf 2017 er mwyn ymgymryd â phrosiect cwmpasu i ddeall sut y gallwn gefnogi’r broses o atal a lliniaru Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod o fewn y 1000 o ddiwrnodau cyntaf yn well.  Ers hynny, mae James wedi ceisio cefnogi a chyflawni gwerthusiad o raglenni iechyd cyhoeddus.

Gyda chefndir mewn seicoleg, mae gan James lawer o ddiddordeb mewn seicoleg ddatblygiadol, seicopatholeg a seiconiwroimiwnoleg.

Mae gan James radd BSc mewn seicoleg o Brifysgol Metropolitan Manceinion a MSC mewn Seicoleg Iechyd o Brifysgol Caerfaddon.  Mae hefyd yn aelod o Gymdeithas Seicolegol Prydain.