Ymunodd Genevieve ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Ionawr 2018 fel Uwch Ymchwilydd ar gyfer Gwerthuso ac Effaith. Mae’n ymchwilydd profiadol, ac mae bellach yn arwain tîm bach o ymchwilwyr gwerthuso sy’n cyfrannu at y ffordd y mae ein sefydliad yn mesur gwerth ac effaith. Mae Genevieve hefyd yn cynorthwyo cydweithwyr yn y sefydliad gyda’r gwaith o ddatblygu eu fframweithiau gwerthuso, yn ogystal â meithrin gallu gwerthuso gyda chyfleoedd hyfforddi i staff ehangu eu sgiliau gwerthuso ac ymchwil.
Yn flaenorol, mewn swydd uwch reoli mewn ymddiriedolaeth iechyd meddwl yn Lloegr, mae Genevieve wedi treulio blynyddoedd lawer yn gweithio ar draws ffiniau disgyblaethol traddodiadol i ddatblygu portffolios ymchwil ym meysydd iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer NIHR. Mae’n rheolwr treialon profiadol, yn Brif Ymchwilydd ar gyfer y portffolio NIHR, ac mae ganddi ddwy radd MSc mewn Iechyd Cyhoeddus ac yn fwy diweddar o Academi Arweinyddiaeth y GIG. Mae wrthi’n ymgymryd â’i hastudiaethau Doethuriaeth Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.
Diddordebau ymchwil: anghydraddoldeb iechyd, ACEs, iechyd meddwl, anableddau dysgu, cyfranogiad cleifion a’r cyhoedd, ymchwil wedi’i arwain gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr
Cyhoeddiadau Dethol Diweddar:
REFOCUS: Developing a recovery focus in mental health services in England: Final report (Feb 2015). Slade, M, Bird, V, Chandler, R, Clarke, E, Craig, T, Larsen, J, Lawrence, V, Le Boutillier, C, Macpherson, R, McCrone, P, Pesola, F, Riley, G, Shepherd, G, Tew, J, Thornicroft, G, Wallace,G ,Williams, J and Leamy, M.
Leamy, M, Clarke, E, Le Boutillier, C, Bird, V, Janosik, M, Sabas, K, Riley, G, Williams, J and Slade, M. (2014). Implementing a complex intervention to support personal recovery:A qualitative study nested within a cluster randomised controlled trial. PLoS ONE 9(5):
R. Macpherson, P.Thyarappa, G.Riley, H.Steer. Evaluation of three assertive outreach teams. The Psychiatrist (2013), 37, 228-231,
G. Riley, N. Gregory, J. Bellinger, N. Davies, G. Mabbott and R. Sabourin. Carer’s education groups for relatives with a first episode of psychosis: an evaluation of an eight-week education group. Early Intervention in Psychiatry 2011; 5: 57–63
J Laidlaw , D Pugh, G Riley and N Hovey. The use of Section 136 (Mental Health Act 1983) in Gloucestershire. Medicine Science and the Law 2010; 50: 29–33
G. Riley J Laidlaw , D Pugh, and E Freeman. The responses of professional groups to the use of Section 136 of the Mental Health Act (1983, as amended by the 2007 Act) in Gloucestershire. Medicine Science and the Law 2011;51:36-42
G. Riley J Laidlaw , D Pugh, and E Freeman. A frightening experience’: detainees’ and carers’ experiences of being detained under Section 136 of the Mental Health Act. Medicine Science and the Law 2011; 51: 164-169