Elysha Rhys-Sambrook

Elysha Rhys-Sambrook

Email Elysha Swyddog Cefnogi Prosiect

Ar ôl ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddiweddar, ym mis Gorffennaf 2019, Elysha yw un o’r aelodau newydd yn ein hadran. Mae Elysha wedi derbyn y swydd Swyddog Cymorth Prosiectau yn yr Adran Ymchwil a Gwerthuso. O fewn y rôl hon, bydd Elysha yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau cymorth prosiectau, o gynllunio prosiectau, cyfathrebu ar draws adrannau a rheoli’r cyfryngau cymdeithasol.

Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, cwblhaodd Elysha ei Thystysgrif Ôl-radd mewn Addysg yn y maes Addysg Gorfforol Uwchradd ym Mhrifysgol Caerwysg. Ar ôl canfod ei bod yn mwynhau’r agwedd fugeiliol a gweinyddol ar addysgu, dychwelodd Elysha i Gaerdydd i ymgymryd â swydd swyddog cymorth prosiectau yn Deloitte. Drwy ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Elysha wedi gallu cyfuno ei chefndir ym maes iechyd a lles a’i diddordeb yn y maes cymorth prosiectau.