Ymunodd Diana â’r tîm fel Uwch Swyddog Ymchwil a Gwerthuso ym mis Gorffennaf 2019. Cyn ei phenodiad i Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu Diana yn gweithio fel Swyddog Cymorth Tystiolaeth a Gwerthuso i Gyngor De Sir Gaerloyw, lle roedd yn gysylltiedig â phrosiectau gwerthuso amrywiol y gwasanaethau iechyd wedi’u comisiynu gan yr awdurdod lleol a’r GIG, gan gynnwys Gwasanaeth Rheoli Pwysau Haen 3 a’r Asesiad Geriatrig Cynhwysfawr mewn Gofal Sylfaenol.
Mae gan Diana brofiad ym maes ymchwil rhyngwladol ac mae wedi bod yn rhan o brosiectau ymchwil amrywiol ym maes maeth a gweithgarwch corfforol mewn grwpiau poblogaethau sy’n agored i niwed ym Mecsico, yr Unol Daleithiau a’r DU. Mae gan Diana radd MSc mewn Maetheg, Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Cyhoeddus o Brifysgol Bryste a chwblhaodd ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Birmingham – yn ymchwilio i eiddilwch a maetheg ac ymddygiad gweithgarwch corfforol ymysg menywod mudol hŷn sy’n byw yn y DU.