Ymunodd Ceri ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Rhagfyr 2014 fel y Swyddog Gweinyddol ac Adnoddau ar gyfer yr Is-adran Ymchwil a Gwerthuso. Yn ei rôl, mae Ceri yn darparu cymorth gweinyddol i’r tîm Ymchwil a Gwerthuso ac yn cynorthwyo’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu gyda gwaith llywodraethu ymchwil a threfniadau lleol yn ymwneud â chapasiti a gallu ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ynghyd â hyn, mae Ceri’n rheoli gwefan y Gymuned Ymchwil a Datblygu, newyddlen fisol Ymchwil a Datblygu a’n cyfrif cyfryngau cymdeithasol. Mae Ceri hefyd yn rhan o’r tîm sy’n trefnu ein cynhadledd ymchwil a gwerthuso flynyddol.
Cyn i Ceri ddechrau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, graddiodd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012 gyda gradd Fagloriaeth mewn Hanes. Mae Ceri hefyd wedi gweithio i glwb busnes bach ar gyfer menywod yn gwneud swyddi amrywiol yn cynnwys trefnu digwyddiadau misol a rheoli gwefan y cwmni.