Benjamin Gray

Benjamin Gray

Email Benjamin Cydlynydd Data Ymchwil Iechyd y Cyhoedd

Ymunodd Ben ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Tachwedd 2014 fel Cydlynydd Data Iechyd Cyhoeddus. Mae gan Ben nifer o gyfrifoldebau o fewn ei swydd, a’r un pennaf yw cynorthwyo i werthuso rhaglenni o fewn cyfarwyddiaethau eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd â chwilio am gyfleoedd ymchwil sy’n cyd-fynd ag amcanion strategol y sefydliad.

Mae diddordebau ymchwil Ben yn cynnwys effaith cyflogaeth ar iechyd a llesiant, iechyd cardiometabolig, iechyd mewn carchardai a chyfleoedd i ddefnyddio data cysylltiedig neu ddata presennol.

Mae Ben wedi gwneud cyflwyniadau mewn nifer o gynadleddau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Cynhadledd Broffesiynol Flynyddol Diabetes UK, Sesiynau Gwyddonol ADA, Gwyddoniaeth Iechyd Cyhoeddus a Chyfarfod TB Rhydychen.

Cyhoeddiadau a Ddewiswyd yn Ddiweddar

1) BJ Gray, SE Perrett, B Gudgeon, AG Shankar. (2019) Investigating the prevalence of latent Tuberculosis infection in a UK remand prison. J Public Health (Oxf). 2019 Jan 4. doi: 10.1093/pubmed/fdy219. [Epub ahead of print].

2) L Green, BJ Gray, N Edmonds, L Parry-Williams (2019) Development of a quality assurance review framework for health impact assessments. Impact Assessment and Project Appraisal 37, 107-113.

3) BJ Gray, ER Barton, AR Davies, SJ Long, J Roderick, MA Bellis (2017) A shared data approach more accurately represents the rates and patterns of violence with injury assaults. J Epidemiol Community Health 71, 1218-1224.

4) BJ Gray, JW Stephens, D Turner, M Thomas, SP Williams, K Morgan, M Williams, S Rice, RM Bracken (2017). A non-exercise method to determine cardiorespiratory fitness identifies females predicted to be at ‘high risk’ of type 2 diabetes. Diab Vasc Dis Res 14, 47-54.

Mae rhestr lawn o hanes ymchwil a chyhoeddiadau Ben ar gael yn https://www.researchgate.net/profile/Benjamin_Gray3