Mae Alisha Davies yn Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ac yn Bennaeth yr Is-adran Ymchwil a Gwerthuso. Ymunodd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016 ac mae’n arwain Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso’r sefydliad, Swyddfa Ymchwil a Datblygu’r GIG ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Tîm Ymchwil, Gwerthuso ac Effaith.
Mae Alisha yn arwain rhaglen ymchwil a gwerthuso sydd wedi’i halinio’n strategol ar draws y tîm, sy’n cwmpasu penderfynyddion ehangach, gwytnwch a blynyddoedd cynnar sy’n berthnasol i bolisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus, ac mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys effaith ysgytwad sylweddol ar unigolion a chymunedau (er enghraifft diswyddiadau ar raddfa fawr, Brexit a chymunedau gwledig) ac ymchwilio i feysydd newydd, gan gynnwys technoleg ddigidol ac iechyd. I weld y cyhoeddiadau diweddaraf, ewch i
Cyn ymuno â PHW, gweithiodd Alisha yn Ymddiriedolaeth Nuffield, melin drafod polisi ac ymchwil iechyd yn Lloegr, ar nifer o raglenni gwaith proffil uchel yn cynnwys dyrannu adnoddau yn seiliedig ar y person (2011); llywio strategaeth yr Adran Iechyd ar gyfer gofal integredig (2012); adolygu cyfraddau ansawdd ar gyfer Ysgrifennydd Gwladol Iechyd (2013); a gwerthusiadau modelau gofal newydd (2014/5).
Mae Alisha hefyd wedi gweithio mewn rolau iechyd y cyhoedd mewn ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, awdurdod lleol, ac ymddiriedolaeth aciwt. Mae ganddi ddau MSc (Demograffeg ac Iechyd, a Pharasitioleg Meddygol) a chwblhaodd ei PhD yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain – yn ymchwilio i’r gwahaniaethau yn nhriniaethau a chanlyniadau clefyd coronaidd y galon ar draws pedair gwlad gyfansoddol y DU.