Dewch i gwrdd â’n siaradwyr

Dewch i gwrdd â’n siaradwyr

Siaradwyr: Kieran Walshe

rsz_kieran_walshe.jpgYmchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae gan yr Athro Walshe 25 mlynedd o brofiad ym meysydd ymchwil polisi iechyd, rheoli iechyd a gwasanaethau iechyd. Mae’n Athro Rheoli Polisi Iechyd yn Ysgol Fusnes Alliance Manceinion. Mae’r Athro Walshe hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Christie, ac yn gadeirydd Health Services Resarch UK. Ymunodd ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym mis Hydref 2019 ar secondiad rhan-amser am gyfnod o bedair blynedd o Brifysgol Manceinion.


Lauren Couzens

Iechyd Cyhoeddus Cymru

imageedit_1_2294097691.jpgMae Lauren yn Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn gweithio yn y Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol ar yr agenda iechyd rhyngwladol. Graddiodd Lauren gyda gradd Meistr yn Iechyd y Cyhoedd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Manceinion, lle cwblhaodd draethawd hir yn ymchwilio i effaith Profion HIV/AIDs Gwirfoddol a gwasanaethau Cwnsela lle’r oedd ymyriadau lleihau stigma ar waith. Yn fwy diweddar, mae Lauren wedi cymryd rhan yn Ysgoloriaeth Young Gastein, sy’n brosiect ar y cyd rhwng yr International Forum Gastein, y Comisiwn Ewropeaidd a Swyddfa Ranbarthol ar gyfer Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd sydd wedi’i anelu at weithwyr ifanc proffesiynol ledled Ewrop sy’n gweithio ym maes iechyd ac mae wedi rhoi’r cyfle iddi ddatblygu galluoedd iechyd y cyhoedd pwysig megis y gallu i feithrin cysylltiadau a phartneriaethau, dysgu sgiliau eirioli a darbwyllo a datblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu mewn cyd-destun Ewropeaidd. Mae’n Ymarferydd Cofrestredig Iechyd y Cyhoedd yn y DU.


Catherine Sharp

Prifysgol Bangor

imageedit_2_9390000196.jpgYmchwilydd iechyd cyhoeddus yw Dr Catherine Sharp yn Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor. Mae gwaith ymchwil Catherine yn edrych ar sut i atal a diogelu unigolion sy’n agored i niwed a’r boblogaeth gyfan rhag niwed, ac yn cefnogi newid ymddygiad mewn ffordd gadarnhaol i hyrwyddo a gwella iechyd a llesiant yn effeithiol yn ystod gwahanol gyfnodau bywyd. Mae wedi ymchwilio i ystod o bynciau sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd gan gynnwys gweithgaredd corfforol, effaith technoleg ar iechyd ac ar ryngweithio o fewn teuluoedd, bwyta’n iach, gamblo ac ymgysylltu â’r cyhoedd.


imageedit_3_6913273061.jpg

Rosalind Reilly

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cwblhaodd Rosalind Reilly hyfforddiant meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2005. Derbyniodd hyfforddiant mewn ym maes Iechyd Cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru gan ddatblygu diddordeb mewn iechyd mamau a phlant.  Rosalind yw arweinydd iechyd cyhoeddus y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant ers 2014.


Charlotte Grey

Iechyd Cyhoeddus Cymru

imageedit_4_7538607381.jpgYmchwilydd Iechyd Cyhoeddus yw Charlotte Grey sy’n gweithio i Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Cyfarwyddiaeth Wybodaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae ganddi brofiad o ddefnyddio dulliau ymchwil ac iechyd cyhoeddus cymysg sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud â sawl prosiect ymchwil gwahanol gan gynnwys: Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a’u heffaith ar ddigartrefedd yn y dyfodol; deall ystyr gwytnwch unigol a chymunedol a’r hyn sy’n creu gwytnwch ymysg y boblogaeth sydd mewn perygl; effaith yr heriau ar lesiant cymunedau ffermio a physgota; ac effaith globaleiddio a chyflogaeth ar iechyd a thegwch iechyd. Mae ei chefndir ymchwil ehangach yn canolbwyntio ar sut y mae’r amgylchedd rydym yn byw ynddo yn effeithio ar ein hiechyd.


Lucia Homolova

Iechyd Cyhoeddus Cymru

imageedit_6_8607071278.jpgCynorthwyydd Ymchwil Iechyd Cyhoeddus yw Lucia Homolova sy’n meddu ar brofiad helaeth ym meysydd seicoleg iechyd a chaethiwed, ac mae’n aelod gwerthfawr o Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Cyfarwyddiaeth Wybodaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n cyfrannu’n helaeth at sawl prosiect gan gynnwys: effaith diweithdra ar raddfa fawr ar gymunedau; archwilio dulliau o gynorthwyo cymunedau sy’n wynebu ansicrwydd; ac effaith globaleiddio a chyflogaeth ar iechyd a thegwch iechyd; gan ddefnyddio manteision gwytnwch ymysg unigolion a chymunedau a’r hyn sy’n gweithio i greu cydnerthedd; a’r hyn sy’n gweithio er mwyn gwella llesiant cymunedau ffermio a physgota. Mae ei maes ymchwil ehangach yn canolbwyntio ar ddeall sut y mae pobl a chymunedau yn ymateb i adfyd ac yn gallu ffynnu er gwaethaf hynny.


Zoë Couzens

Iechyd Cyhoeddus Cymru

imageedit_8_3986526845.jpgZoë Couzens yw arweinydd Rhaglen Iechyd Rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ddiweddar mae wedi cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru, o fewn sectorau GIG Cymru a sectorau nad ydynt yn rhan o’r GIG, i gyflawni gofynion yr Adolygiad Iechyd Rhywiol yng Nghymru.  Mae’n aelod o Fwrdd Rhaglen Iechyd Rhywiol Llywodraeth Cymru sy’n goruchwylio’r broses o weithredu argymhellion yr adolygiad.

Mae Zoë hefyd, drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ymwneud â’r broses o weithredu a monitro’r ddarpariaeth o Broffylacsis Cyn-cysylltiad ar gyfer HIV yng Nghymru.

Cyn i Zoë ddechrau ar ei swydd gydag Iechyd Cyhoeddus bu’n gweithio fel Deietegydd HIV Arbenigol ers dechrau’r 1990au.


Arielle Tye

ProMo-Cymru

Mae gan Arielle dros 10 mlynedd o brofiad o ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau digidol gyda phobl ifanc a chymunedau. Mae ei gwaith caled wedi cynnwys gweithio yn y meysydd iechyd, tai, gwybodaeth ac eiriolaeth. Yn ddiweddar bu'n gweithio ar brosiect gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyd-ddylunio, profi a datblygu dull newydd o ddarparu gwybodaeth am iechyd rhywiol i bobl ifanc.


Liz Green

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Liz yn Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus, yn Gyfarwyddwr Rhaglen Asesu'r Effaith ar Iechyd (HIA) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Gyfarwyddwr Uned Asesu'r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU). Yn ogystal â hynny, mae hi hefyd yn Athro Gwadd yng Nghanolfan Gydweithredu WHO ar gyfer 'Amgylcheddau Trefol Iach' ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.  Mae gan Liz wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad helaeth o gymhwyso dulliau Asesu'r Effaith ar Iechyd, 'Iechyd ym Mhob Polisi' a chynllunio gofodol ac mae'n darparu hyfforddiant, cyngor ac arweiniad ar Asesu'r Effaith ar Iechyd a phrosesau Asesu Effaith eraill. Mae Liz wedi gweithio ar dros 400 o Asesiadau Effaith ar Iechyd ar wahanol lefelau strategol sy'n amrywio o ran cymhlethdod a phynciau gan gynnwys y gwaith cynhwysfawr 'Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru:  Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd' (ICC, 2019) ac mae'n awdur Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd Asesu'r Effaith ar Iechyd' (WHIASU, 2017).


Laura Morgan

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ar hyn o bryd, mae Laura'n gweithio ar brosiect sy'n ymwneud â Chyllid Strwythurol yr UE a Brexit. Yn y gorffennol, bu'n gweithio mewn sawl rôl ymchwil, polisi a chyfathrebu ar draws ystod o feysydd gan gynnwys addysg, tai a digartrefedd, awtistiaeth a Sipsiwn a Theithwyr.


Louisa Petchy

imageedit_7_7771180884.jpgIechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Louisa yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Yn ei rôl mae hi wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu polisi ar oblygiadau Brexit i iechyd y cyhoedd, gan gynnwys y goblygiadau posibl i bobl ifanc yng Nghymru. Mae Louise hefyd yn arwain gwaith ar adeiladu sgiliau a hyder gan ddefnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol a meddwl yn yr hirdymor ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i'w cynorthwyo i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn y gorffennol mae Louisa wedi arwain rhaglenni'n ymwneud â pholisi, dylanwadu a rheoli newid i nifer o elusennau cenedlaethol, gan gynnwys Macmillan Cancer Support ac Age UK. Mae ganddi hefyd Ddoethuriaeth mewn Geneteg Datblygiadol ym Mhrifysgol Llundain, lle yr ariannwyd ei gwaith gan Elusen Plant Ysbyty Great Ormond Street.


Genevieve Riley

imageedit_1_2984767984.jpg
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymunodd Genevieve ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Ionawr 2018 fel Uwch Ymchwilydd ar gyfer Gwerthuso ac Effaith. Mae’n ymchwilydd profiadol, ac mae bellach yn arwain tîm bach o ymchwilwyr gwerthuso sy’n cyfrannu at y ffordd y mae ein sefydliad yn mesur gwerth ac effaith. Mae Genevieve hefyd yn cynorthwyo cydweithwyr yn y sefydliad gyda’r gwaith o ddatblygu eu fframweithiau gwerthuso, yn ogystal â meithrin gallu gwerthuso gyda chyfleoedd hyfforddi i staff ehangu eu sgiliau gwerthuso ac ymchwil.


imageedit_1_6790450704.jpg

Amy McNaughton

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Amy yw’r arweinydd Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer y Rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf. Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi gweithio fel gweithiwr iechyd cyhoeddus ar draws nifer o leoliadau'r GIG a'r Awdurdod Lleol gyda phrofiad o gomisiynu, cynllunio gwasanaethau, gwybodaeth iechyd a datblygu strategaeth genedlaethol. Yn flaenorol, bu'n gweithio fel Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus o fewn Awdurdod Unedol mawr yn Lloegr.


Michael Seaborne

Iechyd Cyhoeddus Cymru

imageedit_5_3357661200.jpg

Ymunodd Mike ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Mawrth 2019 fel Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth. Rôl Mike yw sicrhau bod gwybodaeth a darganfyddiadau’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) yn cael eu trosi a’u trosglwyddo’n arferion er budd iechyd y cyhoedd a’u bod ar gael i ddatblygu polisi yng Nghymru. Mike yw’r cyswllt rhwng ymchwil academaidd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf ar wneuthurwyr polisi iechyd cyhoeddus. Prif ffocws Mike ar hyn o bryd yw cydlynu prosiect sy’n ceisio canfod bylchau mewn gwybodaeth ymchwil ar gyfer iechyd cyhoeddus yn y blynyddoedd cynnar (rhwng 0 a 7 oed) ar draws pob sector a blaenoriaethu’r anghenion hynny ar gyfer datblygu ymchwil yn y dyfodol.


imageedit_7_7763515957.jpgSara Wood

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymunodd Sara ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Mai 2016 fel ymchwilydd atal anafiadau a thrais. Mae ar hyn o bryd yn gysylltiedig â nifer o brosiectau Ewropeaidd/Rhyngwladol, yn cynnwys lleihau anghydraddoldebau iechyd yn yr Undeb Ewropeaidd (gyda ffocws ar yfed alcohol a niwed cysylltiedig) a datblygiad llawlyfr ymarferol ar atal trais mewn ysgolion.


Cyhoeddir enwau rhagor o siaradwyr cyn bo hir