Byddwch yn Adolygwr Cymheiriaid
A oes gennych ddiddordeb mewn bod yn adolygwr cymheiriaid gwyddonol ar gyfer prosiectau ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru?
Yn unol â Fframwaith Llywodraethu Ymchwil ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (2009), mae’n rhaid i bob cynnig ymchwil gael ei adolygu gan arbenigwyr yn y meysydd perthnasol sydd yn gallu rhoi cyngor annibynnol ar ei ansawdd. Ar gyfer prosiectau a ariennir yn allanol, mae cynigion yn aml yn destun craffu am ansawdd gwyddonol yn ystod y cam o wneud cais am gyllid. Ar gyfer prosiectau a ariennir yn fewnol, caiff y broses adolygu gan gymheiriaid ei gydlynu gan y Swyddfa Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae cyfrifoldeb adolygydd cymheiriaid yn cynnwys adolygu protocolau neu gynigion a dderbynnir gan y Swyddfa YaD ar sail ad-hoc. Bydd angen i chi roi sylwadau ar y fethodoleg, nodau, ystadegau, pwyntiau terfynol sylfaenol ac eilaidd a phwysigrwydd prosiectau ymchwil unigol. Caiff yr holl sylwadau eu bwydo yn ôl i’r ymchwilydd yn ddienw er mwyn cyfrannu at ddatblygiad eu prosiect.
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio adolygwyr cymheiriaid ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflen isod: